Cael trwydded yrru ddigidol
Cadwch fersiwn ddigidol o'ch trwydded yrru ar eich ffôn gyda’r ap GOV.UK One Login.
Rhybudd
Ar hyn o bryd dim ond os ydych yn cymryd rhan yn y cynllun peilot ffrindiau a theulu y gallwch gael trwydded yrru ddigidol.
Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael
yn Saesneg (English).
Bydd arnoch angen:
- y cyfeiriad e-bost a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru ar gyfer y cynllun peilot
- trwydded yrru a gyhoeddwyd yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban
- Cyfrif gyrwyr a cherbydau DVLA - gallwch greu cyfrif pan fyddwch yn parhau os nad oes gennych un eisoes
- yr ap GOV.UK One Login
I lawrlwytho’r ap GOV.UK One Login, bydd arnoch angen un o’r canlynol:
- iPhone sy'n rhedeg iOS 16.7 neu uwch
- ffôn Android (er enghraifft, Samsung neu Google Pixel) sy'n rhedeg Android 10 neu uwch