Cael trwydded yrru ddigidol

Cadwch fersiwn ddigidol o'ch trwydded yrru ar eich ffôn gyda’r ap GOV.UK One Login.

Rhybudd Ar hyn o bryd dim ond os ydych yn cymryd rhan yn y cynllun peilot ffrindiau a theulu y gallwch gael trwydded yrru ddigidol.
Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Bydd arnoch angen:

  • y cyfeiriad e-bost a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru ar gyfer y cynllun peilot
  • trwydded yrru a gyhoeddwyd yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban
  • Cyfrif gyrwyr a cherbydau DVLA - gallwch greu cyfrif pan fyddwch yn parhau os nad oes gennych un eisoes
  • yr ap GOV.UK One Login

I lawrlwytho’r ap GOV.UK One Login, bydd arnoch angen un o’r canlynol:

  • iPhone sy'n rhedeg iOS 16.7 neu uwch
  • ffôn Android (er enghraifft, Samsung neu Google Pixel) sy'n rhedeg Android 10 neu uwch
Dechrau nawr